Adduned Cyflogwyr Oed-Gyfeillgar

Mae Age Connects NWC wedi llofnodi’r Adduned Cyflogwyr Oed-gyfeillgar, sef rhaglen genedlaethol sy’n cael ei rhedeg gan y Ganolfan Heneiddio’n Well.

Drwy lofnodi’r adduned, rydyn ni’n dangos ein hymrwymiad i weithwyr hŷn ac i wneud ein gweithle’n ystyriol o oedran. Mae hyn yn golygu ein bod yn cymryd camau i wella ein prosesau ar gyfer recriwtio, cadw a datblygu gweithwyr 50 oed a hŷn.

Mae Age Connects NWC yn sicrhau bod ein swyddi gwag yn cael eu hysbysebu a’u geirio i gyrraedd gweithwyr o bob oed, a bod gweithwyr hŷn yn gallu parhau i ffynnu a chyfrannu yn ein sefydliad. Mae hyn yn golygu y gallwn elwa o’r hwb mewn cynhyrchiant a datblygiadau arloesol a geir gan weithluoedd sy’n pontio’r cenedlaethau.

I Age Connects NWC, mae bod yn Gyflogwr Oed-gyfeillgar nid yn unig yn lles i’r gweithwyr ond mae hefyd yn lles i’r sefydliad a’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Rydym yn cynnig gweithle y mae pobl eisiau ei ddewis. Gweithle lle ceir grwpiau oedran amrywiol. Rydyn ni’n credu bod yr hyn sy’n dda i weithwyr hŷn hefyd yn dda i weithwyr iau ac i’r gwrthwyneb. Rydym yn cynnig llawer o hyblygrwydd ac yn gwarantu hyn i’n holl weithwyr, ni waeth beth yw cyfnod eu swydd, eu statws na’u rôl.

I gael rhagor o wybodaeth am yr adduned, ewch i’r Adduned Cyflogwyr Oed-Gyfeillgar