Cwrdd â’r Ymddiriedolwyr

Tony Latham Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr
Mi wnes i raddio mewn Llenyddiaeth Ffrangeg o Brifysgol Bangor yn 1970. Dechreuais weithio fel Cyfrifydd Siartredig gyda Deloitte & Co ym Manceinion a Brwsel cyn cychwyn ar yrfa amrywiol a rhyngwladol ym maes rheolaeth gyffredinol ac ariannol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Treuliais saith mlynedd fel Archwilydd Rhanbarthol gydag UNICEF (Affrica a De Asia) a Chynrychiolydd Gwlad (Guinea a Lebanon) cyn dychwelyd i fyw yn Llanelwy. Rydw i wedi helpu cwmnïau yng ngogledd Cymru i wneud ceisiadau am grantiau a gyda rhagolygon ariannol ac, er fy mod wedi ymddeol, rydw i’n dal i ymwneud â chwmnïau newydd. Rydw i a fy ngwraig wedi byw yn Llanelwy ers 30 mlynedd ac rydym wedi magu tri mab yma.

 

Sue Wright
Fe wnes i ymddeol ar ôl gweithio yn y sector gwirfoddol ac mewn awdurdodau lleol am 40 mlynedd. Roedd gen i nifer o rolau gan gynnwys Rheolwr Hyfforddiant a Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Pobl Hŷn. Cyn hynny, roeddwn i’n gweithio i Age Connects NWC yn rheoli’r prosiect Speak Up. Rydw i’n Gyfaill Dementia ac roeddwn yn gofalu am fy mam am flynyddoedd lawer, a gafodd ddiagnosis deuol o glefyd Alzheimer a Dementia Fasgwlaidd. Fel yr Uwch Aelod Cyswllt ar gyfer Book of You, rydw i’n gweithio gyda grwpiau i ddatblygu llyfrau stori bywyd digidol (sy’n cynnwys geiriau, lluniau, cerddoriaeth a ffilm), sydd ar gael ar-lein. Rydw i hefyd yn Is-lywydd Sefydliad y Merched lleol, ac yn fam, yn nain ac yn hen nain falch.

 

 

Neil Taylor LL.M
Rydw i wedi gweithio mewn sawl lle, gan gynnwys dwy ffatri, wedi cymhwyso fel cyfreithiwr yn 40 oed ac wedi ymddeol yn 2022. Dros y 10 mlynedd diwethaf, roeddwn i’n gweithio fel Rheolwr Rhanbarthol Gogledd Cymru’r Ffederasiwn Busnesau Bach, lle cymhwysais fel newyddiadurwr. Ymunais â’r NUJ a chefais fy ethol am bum mlynedd weithredol i gynrychioli Cymru yn yr NEC. Rydw i hefyd wedi bod yn rhan o’i bwyllgorau cysylltiadau cyhoeddus a chydraddoldeb, ac wedi gwasanaethu fel is-gadeirydd EC Cymru. Ar hyn o bryd, fi yw ysgrifennydd Cyngor Undebau Llafur Dyffryn Clwyd. Bues i’n gynghorydd tref am 17 mlynedd ac yn faer. Rydw i wedi bod yn rhan o nifer o fudiadau cymunedol fel cyflwynydd ar radio cymunedol Shore FM, Cynghrair Twristiaeth Cymru, Busnes Gogledd Cymru, NSPCC Cymru, a Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Gogledd Cymru. Ar ôl gwasanaethu ar Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru yn y gorffennol, rydw i bellach gyda’i olynydd LLAIS – Llais y Dinesydd ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol.