Y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yn cael ei gyflwyno ar ail safle yng Nghymru
Cleifion yng Nghonwy yw’r ail gymuned yng Nghymru i ddefnyddio’r gwasanaeth presgripsiynau electronig (EPS) newydd cyffrous. Mae presgripsiynau electronig bellach yn cael eu hanfon o Feddygfa Plas Menai Llanfairfechan i ddwy fferyllfa leol, sef Boots yn Llanfairfechan a Gwynan Edwards ym Mhenmaenmawr. Mae EPS yn caniatáu i feddygon teulu a phresgripsiynwyr gofal iechyd eraill anfon presgripsiynau’n ddiogel ar-lein i fferyllfa gymunedol a ddewisir gan y claf. Nid oes rhaid i glinigwyr bellach argraffu a llofnodi’r ffurflen bresgripsiwn ar bapur gwyrdd gyfarwydd, sydd wedi’i defnyddio i ddosbarthu meddyginiaethau yng Nghymru ers dros 60 mlynedd. Nid oes angen ychwaith i gleifion na…