Llywwyr Cymunedol Gorllewin Conwy

Darparu cysylltiadau cymunedol i unigolion o bob oed, i wella iechyd a lles.

Mae Llywwyr Cymunedol Gorllewin Conwy yn darparu cefnogaeth i bobl yn y gymuned i wella eu lles meddyliol a chorfforol.

Mae ein llywwyr yn treulio amser gyda chi, yn dod i adnabod popeth amdanoch chi a’ch sefyllfa. Maent yn darparu Rhagnodi Cymdeithasol, cymorth anfeddygol ar gyfer materion iechyd a chymdeithasol a datrysiadau hirdymor. Maen nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud i chi deimlo eich bod chi’n gallu siarad yn agored am yr hyn sy’n bwysig i chi a’r hyn rydych chi am ei weld yn digwydd i sicrhau newid yn eich bywyd.

Cynhelir cyfres o ymweliadau a galwadau dilynol, wrth i’r Llywwyr profiadol gyflwyno dewisiadau posibl o weithgareddau, rhaglenni, neu wasanaethau o’r gymuned leol, sy’n addas i chi. Gall hyn gynnwys bron unrhyw beth o ddod o hyd i glwb cinio i gael cymorth i ddatrys mater tai.

Ariennir y prosiect Llywwyr gan Feddygon Teulu Gorllewin Conwy a’i gefnogi gan CVSC, ac mae’n cwmpasu’r ardaloedd canlynol:  Conwy, Craig-y-Don, Llandudno, Cyffordd Llandudno, Llanfairfechan, Bae Penrhyn, Betws-y-Coed, Llanrwst, a Cherrigydrudion.

Gofynnwch i’ch meddygfa leol am atgyfeiriad neu cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Age Connects NWC ar 0300 2345 007.