Cwrdd â’r Tîm

Alison Price, Prif Weithredwr 
Ymunais ag ACNWC ym mis Rhagfyr 2015 fel dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, gan ddod yn Brif Swyddog Gweithredol ym mis Tachwedd 2017. Mae fy nghefndir mewn ymgysylltiad cymunedol a rheoli prosiectau ac yn ystod fy ngyrfa rwyf wedi gweithio gyda phlant, pobl ifanc a phobl hŷn. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn gwaith pontio’r cenedlaethau a chymunedau sy’n gyfeillgar i oedran. Rwy’n ffodus iawn i fod yn bennaeth ar dîm sy’n dod â chyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd i’n sefydliad, (staff cyflogedig, gwirfoddolwyr, ac ymddiriedolwyr). 

 

Jackie Ditchburn, Rheolwr Swyddfa
Dwi wedi bod yn Rheolwr Swyddfa Age Connects NWC ers 2012.  Mae fy nghyfrifoldebau yn cynnwys:
♦ Cynnal ein swyddfa a’n systemau busnes 
♦ Rheoli Fforymau Pobl Hŷn sy’n cael eu cyllido gan Gyngor Sir Ddinbych.  
♦ Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor a ariennir gan Gyngor Bwrdeistref Conwy a Chyngor Sir Ddinbych. 
♦ Llywwyr Cymunedol yn cael eu hariannu gan Gyngor Sir Ddinbych, gan weithio ochr yn ochr â’r Groes Goch Brydeinig. .
Rwyf hefyd yn gweithio’n agos gyda’n rheolwr Cartref Bywyd, ein cydlynydd Traed Hapus ac Age Cymru/UK gyda’r prosiect eiriolaeth HOPE.

 

Haf Williams, Llywiwr Cymunedol Gorllewin Conwy   
Ar ôl mynd drwy salwch sy’n newid bywyd, dwi’n deall pa mor anodd yw ailadeiladu bywyd, ac adennill dy annibyniaeth ac ansawdd bywyd. Dyma’r rheswm pam y des i’n Llywiwr Cymunedol, a pham rydw i mor angerddol dros gefnogi eraill i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau, gwella eu lles, ac ailgysylltu â’u cymunedau. Mae’n ymwneud â grymuso pobl i adennill eu hannibyniaeth, gwneud eu dewisiadau bywyd eu hunain a chael mwynhad a phleser allan o fywyd. Mae gwrando ar bryderon rhywun, a’u helpu i weithredu, yn gallu ysgafnhau eu baich emosiynol a gwneud byd o wahaniaeth i’w lles meddyliol.”

 

Sue Mitchell, Llywiwr Cymunedol Gorllewin Conwy   
Rydw i’n Gwnselydd cymwys, gyda blynyddoedd lawer o brofiad fel Gweithiwr Ieuenctid a mentor myfyrwyr yng Ngholeg Llandrillo. Mae gen i ddiddordeb mawr yn yr awyr agored, anifeiliaid, a dwi’n ddarllenwr brwd. Dwi wrth fy modd yn treulio amser gyda ffrindiau a theulu ac wedi dechrau mwynhau nofio gwyllt yn ddiweddar. Rwy’n mwynhau fy rôl fel Llywiwr Cymunedol. Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mawr mewn cefnogi eraill a’u helpu i oresgyn yr anawsterau maen nhw’n eu hwynebu. Weithiau, y cwbl sydd ei angen i greu profiad sy’n newid bywyd yw i un person wrando a helpu.”

 

Lynne Kent, Gwybodaeth a Chyngor / Fforymau Pobl Hŷn Sir Ddinbych 
Cyn ymuno ag Age Connects NWC, bûm yn gweithio yn y sector gofal mewn amrywiaeth o grwpiau defnyddwyr gwasanaeth. Ochr yn ochr â fy rôl fel Rheolwr Cofrestredig sefydliad Gofal Cartref, roeddwn hefyd yn rheoli Canolfan Ddydd ar gyfer pobl hŷn oedd yn llawer o hwyl. Rwy’n hoffi ymlacio gyda llyfr da neu fynd am dro ar y.

 

Alessandra Thomas, Cydlynydd Fforwm Pobl Hŷn yng Nghonwy  
Ers symud i Ogledd Cymru yn 2008, rwyf wedi gweithio ar brosiectau cymunedol i bobl ifanc, pobl hŷn, a chymunedau sy’n gyfeillgar i oedran.  Yn fy rôl bresennol, rwy’n trefnu fforymau ledled y sir, lle gall pobl hŷn ddod i drafod yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.  Mae’r fforymau hyn yn rhan bwysig o waith ACNWC gan eu bod yn rhoi mynediad i’n sefydliad i bobl y mae strategaethau a pholisïau’r llywodraeth yn effeithio ar eu bywydau bob dydd. Yn ystod y cyfyngiadau Covid-19, roedden ni’n dal i allu cadw mewn cysylltiad ag aelodau ein fforwm drwy ein cylchlythyrau. Roedd yn bwerus iawn i fod yn rhan o aelodau ein fforwm ar hyn o bryd ac i glywed eu straeon ynglŷn â sut roedd y cyfyngiadau’n effeithio ar eu bywydau. Mae’n wych bod mewn cyswllt â phobl mor bositif a’u helpu i fynegi barn.

 

David Philips – Cynghorydd Ariannol
Ymunais ag Age Connects NWC yn 2014 gan weithio ar brosiectau amrywiol, ac am y tair blynedd diwethaf rwyf wedi gweithio ar y Rhaglen Cyngor ar Ynni Lleol (LEAP) sy’n helpu pobl drwy edrych ar eu biliau ynni, helpu i gyfnewid tariffau, gosod mesurau ynni bach, a rheoli systemau gwresogi. Rwy’n mwynhau gweithio gydag aelodau eraill o ACNWC i ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth i bobl hŷn. Fy niddordebau y tu allan i’r gwaith yw golff a Chlwb Pêl-droed Everton.

 

Sarah Walton – Gweinyddwr Bywyd Cartref          
Rwyf wedi gweithio i brosiect ACNWC- Bywyd Cartref fel gweinyddwr ers mis Tachwedd 2021. Mae gen i lawer o flynyddoedd o brofiad o weithio gyda phlant, yn ogystal â 10 mlynedd o brofiad yn gweithio gydag oedolion oedd â salwch iechyd meddwl, mewn amrywiol rolau a gyda phobl o wahanol oedrannau. Rwy’n cael budd mawr o weithio gyda phobl a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Gyda rhwydwaith cymorth da, i alluogi a grymuso nhw gall pobl hŷn fyw mor annibynnol â phosib yn eu cartrefi eu hunain, ac rwy’n falch o fod yn rhan o dîm sy’n cyflawni hyn.  Efallai na fydd helpu un person yn newid y byd, ond fe allai newid y byd i’r un person hwnnw“.