Galwad un stop am Wybodaeth a Chyngor gwerthfawr ar ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â phobl hŷn a’u teuluoedd yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
Rydym yn cynnig ystod eang o wybodaeth am bron unrhyw beth o dai i iechyd; ac yn eich helpu i gysylltu â gwasanaethau a gweithgareddau sydd ar gael gan y sector cyhoeddus a llawer o sefydliadau eraill.
“… gallwn helpu i gynnig datrysiad i broblem a bod yn glust i wrando pan nad yw pobl yn aml yn gwybod at bwy i droi.”
Mae’r tîm Gwybodaeth a Chyngor yn gweithio’n agos gyda sefydliadau sy’n darparu cefnogaeth ac adnoddau o bob sector.
Mae aelodau ein tîm yn ateb y galwadau yn uniongyrchol, a dim ond pan fydd yr holl linellau’n brysur neu ar ôl oriau y byddwch yn cael eich dargyfeirio i beiriant ateb. Bydd unrhyw negeseuon peiriant ateb yn derbyn galwad yn ôl cyn gynted ag y bydd aelod o’r tîm ar gael.
Bydd y tîm yn ymchwilio ac yn cysylltu â chi gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol, gan sicrhau nad oes angen i chi wneud galwadau diddiwedd a cheisio dod o hyd i wybodaeth ar eich pen eich hun ar-lein.
Mae’r Tîm Gwybodaeth a Chyngor ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.
Ffoniwch 0300 2345 007.
(Caiff pob galwad ei thrin â pharch a chyfrinachedd.)