Nid yw eich arian yn helpu ein staff a’n gwirfoddolwyr i gefnogi pobl hŷn i fod yn fwy annibynnol yn unig, mae hefyd yn ein helpu i addysgu’r cyhoedd, codi ymwybyddiaeth, lobïo’r llywodraeth am newid, a gwella lles pobl hŷn yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
Gall eich rhoddion ein helpu i barhau â’n gwaith mewn sawl ffordd.
Bydd rhodd o:
- £10 yn talu am 1 awr o gymorth dros y ffôn gan ein gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor am ddim.
- £25 yn talu am gynghorydd i wneud ymweliad cartref â pherson hŷn bregus.
- £50 yn talu i’n tîm gynnal sesiwn gyngor 2 awr mewn neuadd bentref neu ganolfan gymunedol.
- £75 yn talu cost argraffu a phostio am bron i 100 o gylchlythyrau.
- £100 yn helpu tuag at hyfforddi a chefnogi ein gwirfoddolwyr.
Rydym yn ddiolchgar am unrhyw gyfraniad y gallwch ei wneud.