Cymorth Ymarferol gyda Thasgau Bob Dydd
Mae gan wasanaeth Bywyd yn y Cartref Age Connects NWC ddull cyfannol o gefnogi pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y bo
modd. Bydd cymorth yn cael ei deilwra i ofynion pob person. Rydyn ni’n ymfalchïo mewn gwybod mai ein prif ffocws yw anghenion ein cleientiaid!
Gwasanaeth menter gymdeithasol yw hwn, felly bydd ffi’n cael ei chodi a
fydd yn cael ei thrafod gyda phob person.
Tîm bach cyfeillgar ydyn ni, sy’n darparu cymorth i bobl dros 50 oed sy’n byw gartref, yn ardal Sir Ddinbych a Chonwy. Yn Bywyd yn y Cartref, byddwn ni’n gallu:
- Mynd â chi i siopa neu siopa ar eich rhan.
- Mynd am ginio gyda chi neu eich helpu i wneud pryd o fwyd ysgafn gartref.
- Bod yn ffrind ac yn gwmni i chi; gallwn droi’r tegell ymlaen a chael sgwrs.
- Rhoi cymorth gyda’r tasgau hynny na allwch eu cyflawni mwyach, a helpu gyda golchi, smwddio a chadw dillad. Defnyddio’r hwfer a glanhau ychydig o gwmpas y tŷ.
- Casglu presgripsiynau a mynd gyda chi i apwyntiadau.
- Eich helpu chi a’ch cyfeirio at y cyfeiriad iawn gyda gwasanaethau allanol.
- Byddwn hyd yn oed yn.
Gellir trafod eich holl ofynion a byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu ar y dull gorau o weithredu.
I drefnu apwyntiad neu am ragor o wybodaeth ffoniwch 0300 2345 007.
Cefnogir y Prosiect Bywyd Cartref yng Nghonwy gan arian y Loteri Fawr.