Mae HOPE yn helpu pobl hŷn a gofalwyr i ymgysylltu, cymryd rhan, cael gwybodaeth, sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, deall eu hawliau, gwneud dewisiadau, bod ynhglwm a rhannu profiadau.
Mae eiriolaeth yn broses o gefnogi a galluogi pobl i fynegi eu barn a’u pryderon, cael mynediad at wybodaeth ac arweiniad, ac archwilio dewisiadau ar gyfer gwasanaethau a gofal. Gall hyn fod yn help i gael cyngor a chymorth diduedd wrth benderfynu unrhyw beth o adolygu gwasanaeth cyfleustodau, i gael y gofal iechyd cywir, hyd at wneud penderfyniadau am ofal a llety hirdymor.
Mae HOPE hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o eiriolaeth ac yn gweithio gyda phobl i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth.
Bydd HOPE yn darparu cymorth eiriolaeth i bobl hŷn (50+) a gofalwyr ledled Cymru. Fel gwasanaeth eiriolaeth, nod HOPE yw cefnogi pobl o gyfnod cynnar gydag unrhyw faterion neu bryderon i’w hatal rhag llithro i argyfwng. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried yr effaith y mae pandemig COVID-19 wedi’i chael ar fywydau pobl hŷn y gallai fod angen cymorth arnynt i ailgysylltu â’u cymunedau ac i gael mynediad at wasanaethau.
Mae Prosiect HOPE yn brosiect partneriaeth rhwng Age Cymru, partneriaid lleol Age Cymru a phartneriaid Age Connects Wales ledled Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r:
- Tîm Gwybodaeth a Chyngor ar 0300 2345 007
Ariennir HOPE gan Lywodraeth Cymru o dan y Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy tan ddiwedd mis Mawrth 2023.