Cylchlythyrau Pobl Hŷn

Mae’r Cylchlythyrau Pobl Hŷn ar gyfer y ddwy sir, Conwy a Sir Ddinbych, yn cael eu hysgrifennu a’u cyhoeddi gan Gydlynwyr ein Fforwm Pobl Hŷn. 

Dechreuwyd cyhoeddi’r cylchlythyrau yn ystod y cyfnod clo i alluogi pobl hŷn nad oeddent yn defnyddio’r rhyngrwyd i gael gafael ar wybodaeth hanfodol am sut i gael help.

Mae’r cylchlythyrau’n ddwyieithog, yn llawn gwybodaeth ac yn rhoi sylw i ddigwyddiadau lleol. Ceir hefyd ddetholiad o gerddi, lluniau ac erthyglau gan aelodau’r fforwm a thanysgrifwyr.

Mae’r cylchlythyrau ar gael am ddim drwy e-bost neu drwy’r post. I danysgrifio, ffoniwch 0300 2345 007 neu anfonwch e-bost at enquiries@acnwc.org.  

Lawrlwythwch y rhifynnau diweddaraf o’r cylchlythyr ar gyfer Conwy neu Sir Ddinbych

Sylwch, oherwydd pryderon ariannu, fod cylchlythyr Conwy wedi dod i ben ym mis Mai 2025.