Y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yn cael ei gyflwyno ar ail safle yng Nghymru

Cleifion yng Nghonwy yw’r ail gymuned yng Nghymru i ddefnyddio’r gwasanaeth presgripsiynau electronig (EPS) newydd cyffrous.

Mae presgripsiynau electronig bellach yn cael eu hanfon o Feddygfa Plas Menai Llanfairfechan i ddwy fferyllfa leol, sef Boots yn Llanfairfechan a Gwynan Edwards ym Mhenmaenmawr.

Mae EPS yn caniatáu i feddygon teulu a phresgripsiynwyr gofal iechyd eraill anfon presgripsiynau’n ddiogel ar-lein i fferyllfa gymunedol a ddewisir gan y claf.

Nid oes rhaid i glinigwyr bellach argraffu a llofnodi’r ffurflen bresgripsiwn ar bapur gwyrdd gyfarwydd, sydd wedi’i defnyddio i ddosbarthu meddyginiaethau yng Nghymru ers dros 60 mlynedd. Nid oes angen ychwaith i gleifion na staff fferyllfa gasglu presgripsiynau o’r feddygfa – yn lle hynny, mae’r meddyg teulu yn eu hanfon yn uniongyrchol i’r fferyllfa trwy gyfrifiadur.

Dywedodd Sarah Michaelson, Rheolwr Meddygfa Plas Menai:

“Gydag ychydig o addasiadau a phroblemau i’w datrys, roedd symud i brofi byw yn llwyddiant ar y cyfan. Rydym nawr yn edrych ymlaen at fanteision llawn EPS. Mae’r manteision yn cynnwys gwasanaeth diffwdan i gleifion gan y byddwn nawr yn gallu dilyn eu presgripsiwn trwy gydol ei daith electronig.”

Unwaith y bydd fferyllfa yn gallu cynnig rhagnodi electronig, mae cleifion yn cofrestru trwy ddweud wrth staff yn y fferyllfa neu’r practis meddyg teulu eu bod am ddefnyddio’r gwasanaeth presgripsiynau electronig. Nid oes angen i’r claf ddefnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar neu liniadur gan y bydd staff yn gallu trefnu hyn ar eich rhan.

Mae darparu Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru yn rhan allweddol o’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, sydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dwyn ynghyd y rhaglenni a’r prosiectau a fydd yn sicrhau manteision dull presgripsiynu digidol llawn ym mhob lleoliad gofal iechyd yng Nghymru.