Gostyngiadau Treth y Cyngor i Bobl sy’n Byw gyda Dementia

Ad-daliadau treth y cyngor ar gael i bobl sydd â dementia a chyflyrau iechyd meddwl eraill.

Mae’r gostyngiad treth gyngor ‘amhariad meddwl difrifol’ (SMI) yn ostyngiad oddi ar fil treth gyngor cartref, sy’n werth o leiaf 25%, ac mewn rhai achosion hyd at 100%.  Gall y taliadau gael eu hôl-ddyddio, ac mewn rhai achosion, gall pobl  gael ad-daliad wedi’i ôl-ddyddio yn ogystal â gostyngiadau yn y dyfodol. Mae salwch meddwl difrifol yn ddiagnosis meddygol ynddo’i hun, ond gallai’r achos sylfaenol fod yn gyflwr fel dementia (neu Alzheimer’s), Parkinson’s, anawsterau dysgu difrifol neu strôc. Bydd yn dibynnu ar achos pob unigolyn ac nid yw cael diagnosis o salwch meddwl difrifol yn golygu’n awtomatig eu bod nhw’n gymwys am ostyngiad.  Rhaid i feddyg hefyd ardystio bod gan yr unigolyn nam meddyliol difrifol.  Nid oes gan meddygon teulu hawl i godi tâl arnoch am yr ardystiad hwn.

Mae dau gam i fod yn gymwys.

  1. Mae’n rhaid bod rhywun wedi’i ardystio’n feddygol fel rhywun sydd â ‘nam meddyliol difrifol’ (SMI) – wedi’i ddiffinio fel bod â nam difrifol ar ddeallusrwydd a gweithrediad cymdeithasol (sut bynnag y’i achosir) sy’n ymddangos yn barhaol.
  2. Yng Nghymru, rhaid bod gan y person o leiaf un o nifer o fudd-daliadau (Rhestr lawn ar dudalen 10).

Mae’r ffurflen gais am y gostyngiad wedi’i safoni ledled Cymru, a chaniateir ôl-ddyddio gan BOB cyngor mewn ffordd safonol, gan gynnwys Conwy.

Mae gan Lywodraeth Cymru dudalen we bwrpasol gyda manylion y gostyngiad a sut i’w hawlio. (llyw.cymru/gostyngiadau-treth-cyngor-a-gostyngiad/nam-meddwl-difrifol)

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Adran Treth y Cyngor y 01492 576607.