Canolfannau Bancio

Er nad yw cystal â chael cangen o’ch gwasanaeth banc gerllaw, mae Canolfannau Bancio yn ei gwneud hi’n haws i chi fancio wyneb yn wyneb, pwy bynnag yw eich banc. Maen nhw ar gael mewn cymunedau ledled y DU. Mae rhai yn cael eu gweithredu gan Swyddfa’r Post a rhai gan Cash Access UK, a phob un mewn partneriaeth â darparwyr mawr ar y stryd fawr. Mae’r Canolfannau’n cynnig gwasanaeth cownter, lle gall cwsmeriaid unrhyw fanc wneud trafodion bancio rheolaidd fel talu gydag arian parod a sieciau, codi arian, gwirio balans, talu biliau cyfleustodau, neu ychwanegu at nwy neu drydan….

Darllenwch mwy