Y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yn cael ei gyflwyno ar ail safle yng Nghymru

Cleifion yng Nghonwy yw’r ail gymuned yng Nghymru i ddefnyddio’r gwasanaeth presgripsiynau electronig (EPS) newydd cyffrous. Mae presgripsiynau electronig bellach yn cael eu hanfon o Feddygfa Plas Menai Llanfairfechan i ddwy fferyllfa leol, sef Boots yn Llanfairfechan a Gwynan Edwards ym Mhenmaenmawr. Mae EPS yn caniatáu i feddygon teulu a phresgripsiynwyr gofal iechyd eraill anfon presgripsiynau’n ddiogel ar-lein i fferyllfa gymunedol a ddewisir gan y claf. Nid oes rhaid i glinigwyr bellach argraffu a llofnodi’r ffurflen bresgripsiwn ar bapur gwyrdd gyfarwydd, sydd wedi’i defnyddio i ddosbarthu meddyginiaethau yng Nghymru ers dros 60 mlynedd. Nid oes angen ychwaith i gleifion na…

Darllenwch mwy

Gostyngiadau Treth y Cyngor i Bobl sy’n Byw gyda Dementia

Ad-daliadau treth y cyngor ar gael i bobl sydd â dementia a chyflyrau iechyd meddwl eraill. Mae’r gostyngiad treth gyngor ‘amhariad meddwl difrifol’ (SMI) yn ostyngiad oddi ar fil treth gyngor cartref, sy’n werth o leiaf 25%, ac mewn rhai achosion hyd at 100%.  Gall y taliadau gael eu hôl-ddyddio, ac mewn rhai achosion, gall pobl  gael ad-daliad wedi’i ôl-ddyddio yn ogystal â gostyngiadau yn y dyfodol. Mae salwch meddwl difrifol yn ddiagnosis meddygol ynddo’i hun, ond gallai’r achos sylfaenol fod yn gyflwr fel dementia (neu Alzheimer’s), Parkinson’s, anawsterau dysgu difrifol neu strôc. Bydd yn dibynnu ar achos pob unigolyn…

Darllenwch mwy