Sut i Gael Copi o’ch Cofnodion Meddygol

Mae gan bawb yn y DU hawl gyfreithiol i weld eu cofnodion meddygol neu iechyd eu hunain o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Does dim angen talu i gael mynediad i’ch cofnodion meddygol dan GDPR – ni fydd angen talu unrhyw beth. Nid oes rhaid i chi egluro pam eich bod eisiau eu gweld, a gallwch enwebu rhywun arall, er enghraifft cyfreithiwr, i weld eich cofnodion, ar yr amod eu bod wedi cael caniatâd ysgrifenedig. Gellid gwrthod eich cais os yw gweithiwr iechyd proffesiynol o’r farn y byddai gweld y cofnodion yn niweidiol iawn i’ch iechyd corfforol neu…

Darllenwch mwy

Gwaredu Gwastraff Y Cartref – Eich Dyletswydd Gofal

Fel deiliad tŷ, mae gennych ddyletswydd gofal gwastraff. Mae hyn yn golygu na ddylech ddim ond trosglwyddo eich gwastraff i rywun sydd wedi’i awdurdodi i’w gymryd. Nid dim ond eich sbwriel wythnosol arferol yw hwn, mae hefyd yn cynnwys dodrefn, eitemau trydanol, gwastraff adeiladu a gwastraff gwyrdd. Drwy sicrhau bod gwastraff yn cael ei drin yn ddiogel a dim ond yn cael ei roi i bobl sydd wedi’u hawdurdodi i’w gymryd, fe allwn warchod yr amgylchedd a’n hiechyd ninnau. Rhaid ichi sicrhau bod yr unigolyn neu’r sefydliad a ddewiswch i fynd â’ch gwastraff ymaith wedi’i gofrestru â Cyfoeth Naturiol Cymru….

Darllenwch mwy

Atwrneiaeth Arhosol Eich Llais, Eich Penderfyniad

Os ydych chi’n colli’r gallu i wneud rhai penderfyniadau drosoch eich hun, mae atwrneiaeth arhosol (LPA) yn caniatáu i bobl rydych chi’n ymddiried ynddynt gamu i mewn yn gyflym, yn syml ac yn gyfreithlon. Mae yna 2 fath o LPA i’w cael. Gellir gwneud LPA ar gyfer materion ariannol ac eiddo’r rhoddwr neu ar gyfer eu hiechyd a’u lles. Gall y rhoddwr wneud un neu’r ddau, ac nid oes raid i’r LPAs gael eu gwneud ar yr un pryd. Eiddo a Chyllid – Os oes gan gwpl gyfrif banc ar y cyd a bod un unigolyn yn methu â gwneud…

Darllenwch mwy