Fel deiliad tŷ, mae gennych ddyletswydd gofal gwastraff. Mae hyn yn golygu na ddylech ddim ond trosglwyddo eich gwastraff i rywun sydd wedi’i awdurdodi i’w gymryd. Nid dim ond eich sbwriel wythnosol arferol yw hwn, mae hefyd yn cynnwys dodrefn, eitemau trydanol, gwastraff adeiladu a gwastraff gwyrdd. Drwy sicrhau bod gwastraff yn cael ei drin yn ddiogel a dim ond yn cael ei roi i bobl sydd wedi’u hawdurdodi i’w gymryd, fe allwn warchod yr amgylchedd a’n hiechyd ninnau.
Rhaid ichi sicrhau bod yr unigolyn neu’r sefydliad a ddewiswch i fynd â’ch gwastraff ymaith wedi’i gofrestru â Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dylai busnesau preifat fel cwmnïau llogi sgipiau neu glirio tai gael eu cofrestru fel cludwyr gwastraff haen uchaf. Fe all elusennau, mudiadau gwirfoddol ac awdurdodau lleol gasglu gwastraff gyda chofrestriad haen is.
Os bydd swyddog gorfodi gwastraff yn olrhain sbwriel sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon yn ôl i ddeiliad tŷ, fe allai wynebu dirwy o hyd at £5,000 a chael ei erlyn. Cofiwch gadw cofnod o unrhyw archwiliadau a wnewch, gan gynnwys rhif cofrestru, rhif trwydded neu rif eithriad y cwmni gwastraff. Fe all awdurdodau lleol ar draws Cymru hefyd roi hysbysiad cosb benodedig o £300 i ddeiliad tŷ yn hytrach na’i erlyn.