Hybiau Bancio o LINK

Mae LINK yn cysylltu rhwydwaith ATM dibynadwy â phob prif fanc a chymdeithas adeiladu, ac yn sicrhau bod pobl ym mhob cornel o’r DU yn gallu cael gafael ar arian parod.

Man bancio a rennir sydd ar gael i bawb yw Canolfan Bancio. Mae’r canolfannau’n cael eu rhedeg gan Cash Access UK ac mae ganddyn nhw wasanaeth cownter lle gall cwsmeriaid o’r holl brif fanciau dynnu arian parod ac adneuo arian parod, gwneud taliadau biliau, a chynnal trafodion bancio rheolaidd. Mae gan yr Hybiau hefyd fannau preifat lle gall cwsmeriaid siarad â rhywun o’u banc eu hunain am faterion mwy cymhleth. Mae’r banciau’n gweithio ar sail cylchdroi, felly bydd staff o wahanol fanciau ar gael ar ddiwrnodau gwahanol.

Pryd bynnag y bydd banc neu gymdeithas adeiladu sy’n cymryd rhan yn gwneud newid i’w rwydwaith mae’n hysbysu LINK ymlaen llaw. Bydd LINK wedyn yn asesu anghenion y lleoliad, gan edrych ar wasanaethau eraill sydd ar gael yn lleol, nifer y bobl a nifer y siopau, a phenderfynu a oes angen Hyb Bancio ar y gymuned.

Yn ogystal, gall cymuned hefyd wneud cais i LINK ar gyfer Hyb Bancio. Gall unrhyw gymuned ofyn am adolygiad, ond os yw banc wedi cyhoeddi cau cangen yn y gymuned yn ddiweddar, bydd LINK eisoes wedi cynnal asesiad, ac ni fydd asesiad pellach yn cael ei gwblhau oni bai bod amgylchiadau’r gymuned wedi newid yn sylweddol.

Pan fydd LINK yn argymell Hyb Bancio newydd, maen nhw’n gofyn i Cash Access UK ei gyflwyno trwy chwilio am y lleoliad gorau a gweithio gyda’u haelodau i ddarparu bancwyr cymunedol.

Os ydych chi’n meddwl bod angen Hyb Bancio ar eich cymuned, cysylltwch â’ch MS, AS neu Gynghorydd lleol am gefnogaeth i lenwi’r ffurflen gais ar wefan LINK isod.

https://www.link.co.uk/helping-you-access-cash/request-access-to-cash