Newydd I Bobl Hŷn Ar Gael Mynediad at Feddygfeydd Yng Nghymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi lansio canllaw newydd i helpu pobl hŷn a’u teuluoedd i ddeall eu hawliau’n well wrth gael gafael ar eu meddyg teulu, a deall y mathau o wasanaethau a chymorth a ddylai fod ar gael.

Mae’r canllaw’n cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys cyfathrebu â’ch practis, dod o hyd i’r gwasanaeth a’r gweithiwr proffesiynol iawn, y cymorth y dylid ei gynnig i helpu i ddiwallu eich anghenion, a’r hyn y gallwch chi ei wneud os nad ydych chi’n fodlon â’r gwasanaeth rydych chi’n ei gael.  

Mae fersiynau o’r canllaw ar gael mewn fformatau BSL, Sain a Hawdd eu Darllen, ochr yn ochr â chrynodebau mewn ieithoedd eraill.

Os hoffech chi gael copi caled o’r canllaw, ffoniwch 03442 640670.

Bydd yr adroddiad hefyd ar gael yn y Fforymau Pobl Hŷn – gweler tudalen XX am ddyddiadau a lleoliadau.

Gwneud Apwyntiad Meddyg (Practisau Meddygon Teulu yng Nghymru: Canllaw i Bobl Hŷn – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru)

Pan fyddwch yn cysylltu â’ch practis i wneud apwyntiad, rhaid i’r practis gynnig ymgynghoriad priodol i chi os yw wedi asesu bod gennych angen clinigol i gael mynediad at ei wasanaethau. Dylai’r practis gynnig apwyntiad i chi pan fyddwch yn cysylltu â nhw am y tro cyntaf. Ni ddylai fod yn rhaid i chi gysylltu â nhw eto. Os bydd clinigwr yn penderfynu bod eich angen yn un brys, rhaid cynnig apwyntiad i chi ar yr un diwrnod.

Os nad yw eich angen mor frys, rhaid i chi allu trefnu apwyntiad ymlaen llaw. Fel arfer, dylai eich practis drefnu apwyntiad i chi o fewn pythefnos i dair wythnos, ond gallant drefnu bod slotiau apwyntiad ar gael hyd at chwe wythnos ymlaen llaw.

Ni ddylai practisau fod yn rhyddhau pob apwyntiad am 8am ar gyfer y diwrnod hwnnw mwyach.