Rheolau Arbennig: Ffurflen SR1 a sut mae’r system fudd-daliadau’n cynorthwyo’r bobl sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes

Mae’r Rheolau Arbennig yn galluogi oedolyn neu blentyn sydd â llai na 12 mis i fyw i gael gafael ar fudd-daliadau penodol yn gynt, neu i gael cyfradd uwch o fudd-daliadau. Maent hefyd yn gallu osgoi asesiad meddygol.  Mae’r Rheolau Arbennig yn berthnasol i unrhyw un sydd yn nesáu at ddiwedd eu hoes o ganlyniad i henaint, neu afiechyd.

Gallwch chi ofyn i glinigydd gyflwyno’r Ffurflen SR1, neu gall rhywun ofyn i’r clinigydd ar eich rhan.  Ond, yr unig rai sy’n gymwys i wneud ceisiadau trydydd parti am Gredyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar ran y claf yw’r sawl a benodir neu’r person sydd ag atwrneiaeth arhosol. Gall y clinigydd gyflwyno’r ffurflen SR1 a darparu unrhyw dystiolaeth feddygol sydd ei hangen.

Pe bai’r claf sy’n hawlio dan y Rheolau Arbennig yn byw yn hirach na’r disgwyl, ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oblygiadau negyddol i’r clinigydd na’r claf.