Sut i Gael Copi o’ch Cofnodion Meddygol

Mae gan bawb yn y DU hawl gyfreithiol i weld eu cofnodion meddygol neu iechyd eu hunain o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Does dim angen talu i gael mynediad i’ch cofnodion meddygol dan GDPR – ni fydd angen talu unrhyw beth.

Nid oes rhaid i chi egluro pam eich bod eisiau eu gweld, a gallwch enwebu rhywun arall, er enghraifft cyfreithiwr, i weld eich cofnodion, ar yr amod eu bod wedi cael caniatâd ysgrifenedig. Gellid gwrthod eich cais os yw gweithiwr iechyd proffesiynol o’r farn y byddai gweld y cofnodion yn niweidiol iawn i’ch iechyd corfforol neu feddyliol.

Mae eich cofnodion meddygol yn cynnwys unrhyw wybodaeth am eich iechyd corfforol neu feddyliol a gofnodwyd gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys cofnodion a wnaed gan staff ysbyty, meddygon teulu, deintyddion, ac optegwyr. Gall hefyd gynnwys cofnodion iechyd ym meddiant eich cyflogwr. Ymhlith y math o wybodaeth a allai fod yn berthnasol mae adroddiadau labordai, canlyniadau profion, recordiadau o alwadau ffôn, pelydrau-X, llythyrau, siartiau presgripsiwn a nodiadau clinigol.

Bydd gennych gofnodion ar wahân ar gyfer unrhyw wasanaeth GIG y byddwch yn mynd iddo gan gynnwys eich meddygfa, ysbyty, deintydd, neu optegydd. Nid yw’r cofnodion hyn yn cael eu rhannu rhwng gwasanaethau ac nid ydynt yn cael eu cadw mewn un lle, felly mae angen i chi wneud cais am eich cofnodion i bob gwasanaeth ar wahân.

Y cwbl sydd angen i chi ei wneud i gael eich cofnod meddyg teulu yw gofyn yn y feddygfa. Gallant e-bostio’r cofnodion neu argraffu copïau papur os yw’n well gennych.   

Os oes gennych gyfrif ar-lein y GIG, gallwch gael eich cofnod meddyg teulu drwy fewngofnodi i’ch cyfrif gan ddefnyddio Ap y GIG neu wefan y GIG.

Ar gyfer unrhyw gofnodion meddygol eraill, mae angen i chi ofyn yn y gwasanaeth GIG perthnasol. Mae hyn yn cynnwys cofnodion ysbyty, ac apwyntiadau ymgynghorol. Gallwch ffonio’r gwasanaeth, gofyn wyneb yn wyneb neu edrych ar y wefan ar gyfer gwasanaeth y GIG. Efallai y bydd gofyn i chi lenwi ffurflen i ofyn am fynediad. I gael gwybod ble mae eich cofnodion yn cael eu cadw gofynnwch i’ch meddygfa. Dylent allu dweud wrthych. Gallwch ofyn yn ffurfiol am unrhyw un o’ch cofnodion meddygol yn ysgrifenedig os nad yw’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn rhan o’ch cofnod meddyg teulu, neu os ydych chi eisiau copïau caled a ddim eisiau defnyddio’r gwasanaethau ar-lein.

Gallwch ysgrifennu llythyr neu e-bost yn gofyn am gopïau o’ch cofnodion. Dylech gynnwys gwybodaeth am beth yn union rydych chi am ei weld. Cadwch gopïau o unrhyw lythyrau rydych chi’n eu hanfon a’u derbyn. Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal iechyd yn anelu at ymateb i geisiadau o fewn tair wythnos. Os na chlywch yn ôl o fewn y cyfnod hwn, ysgrifennwch eto, neu ffoniwch i ofyn am ddiweddariad.

Os nad ydych wedi clywed unrhyw beth ar ôl 40 diwrnod, gallwch wneud cwyn ffurfiol. Os ydych angen cymorth, ffoniwch Linell Gymorth Cymdeithas y Cleifion: 0800 345 7115.