
Os oes gennych fesurydd eisoes, neu wedi gofyn am un, mae tariff Terfyn Bil – WaterSure Cymru yn rhoi terfyn ar y swm y mae’n rhaid i chi ei dalu am eich dŵr. WaterSure Cymru yn rhoi terfyn ar eich bil mesuredig blynyddol fel na fyddwch yn talu dros swm penodol ar gyfer y flwyddyn, ni waeth faint yr ydych yn ei ddefnyddio.
Taliad Terfyn Bil – WaterSure Cymru o 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026 yw £532.27 (£218.28 ar gyfer dŵr, £313.99 ar gyfer carthffosiaeth).
I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi fod yn derbyn budd-dal cymwys neu gredyd treth a naill ai bod â 3 neu fwy o blant dan 19 oed yn byw yn eich cartref y cewch hawlio Budd-dal Plant ar eu cyfer, neu fod ag aelod yn eich cartref â chyflwr meddygol sy’n golygu bod angen defnyddio llawer mwy o ddŵr nag arfer.
Am ragor o wybodaeth ffoniwch Dŵr Cymru ar 0800 052 0145.