Os ydych chi’n colli’r gallu i wneud rhai penderfyniadau drosoch eich hun, mae atwrneiaeth arhosol (LPA) yn caniatáu i bobl rydych chi’n ymddiried ynddynt gamu i mewn yn gyflym, yn syml ac yn gyfreithlon.
Mae yna 2 fath o LPA i’w cael. Gellir gwneud LPA ar gyfer materion ariannol ac eiddo’r rhoddwr neu ar gyfer eu hiechyd a’u lles.
Gall y rhoddwr wneud un neu’r ddau, ac nid oes raid i’r LPAs gael eu gwneud ar yr un pryd.
Eiddo a Chyllid – Os oes gan gwpl gyfrif banc ar y cyd a bod un unigolyn yn methu â gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain, ni all eu partner wneud penderfyniadau yn gyfreithlon dros y ddau ohonynt.
Mae atwrneiaeth arhosol eiddo a chyllid yn rhoi i rywun rydych chi’n ymddiried ynddynt y grym i wneud penderfyniadau am eich arian a’ch eiddo, er enghraifft talu biliau, delio â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, Casglu pensiynau neu fudd-daliadau a gwerthu eich cartref. Gellir defnyddio’r pwerau hyn ar unrhyw adeg, ond dim ond os ydych chi’n dweud bod hynny’n iawn.
Iechyd a Gofal – Nid eich perthynas agosaf sy’n cael y gair olaf ynglŷn â phenderfyniadau am driniaethau yn yr ysbyty os na allwch wneud y rhain eich hun.
Mae angen i’r unigolyn dan sylw roi cydsyniad penodol, y cytunwyd arno i benderfyniadau meddygol, cyn y gall perthynas agosaf wneud dewisiadau ynglŷn â thriniaethau neu les ar ran rhywun arall
Mae atwrneiaeth arhosol iechyd a gofal yn rhoi ichi’r pŵer i wneud penderfyniadau am bethau fel eich trefn ddyddiol (er enghraifft, ymolchi, gwisgo, a bwyta), gofal meddygol, symud i gartref gofal, triniaeth i gynnal bywyd. Rydych chi’n gwneud cais ac yn cofrestru nawr, ond nid yw ond yn cael ei ddefnyddio os na allwch wneud eich penderfyniadau eich hun i’r dyfodol.
Gwneud eich atwrneiaeth arhosol – Gallwch lenwi ceisiadau ar-lein neu’u lawrlwytho. Yn y naill achos, bydd angen ichi eu hargraffu a’u llofnodi. Ar ôl eu llenwi, llofnodwch y ffurflenni, ac amgáu eich taliad (oni bai ichi dalu ar-lein) a phostio popeth i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’w cofrestru. Mewn 8-10 wythnos, caiff y ffurflenni cofrestredig eu dychwelyd atoch i’w cadw’n ddiogel.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch wasanaethau cwsmeriaid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 0300 456 0300 neu ewch i www.lastingpowerofattorney.service.gov.uk.