Hybiau Bancio o LINK
Mae LINK yn cysylltu rhwydwaith ATM dibynadwy â phob prif fanc a chymdeithas adeiladu, ac yn sicrhau bod pobl ym mhob cornel o’r DU yn gallu cael gafael ar arian parod. Man bancio a rennir sydd ar gael i bawb yw Canolfan Bancio. Mae’r canolfannau’n cael eu rhedeg gan Cash Access UK ac mae ganddyn nhw wasanaeth cownter lle gall cwsmeriaid o’r holl brif fanciau dynnu arian parod ac adneuo arian parod, gwneud taliadau biliau, a chynnal trafodion bancio rheolaidd. Mae gan yr Hybiau hefyd fannau preifat lle gall cwsmeriaid siarad â rhywun o’u banc eu hunain am faterion mwy…