Gwasanaethau Casglu Biniau â Chymorth

Gallwn drefnu casglu â chymorth ar gyfer trigolion sy’n cael trafferth symud eu cynwysyddion a’u biniau i ymyl y palmant ar y diwrnod casglu. Bydd hynny’n golygu y bydd criwiau casglu yn nôl eich cynwysyddion a’ch biniau o leoliad a gytunwyd arno y tu allan i’ch cartref ac yn mynd â nhw’n ôl wedyn. Ni fydd criwiau ailgylchu yn mynd i mewn i’ch cartref ac ni fyddan nhw’n didoli eich eitemau ar gyfer ailgylchu.

Gallwch wneud cais am gasgliad â chymorth os nad ydych chi’n gallu symud eich cynwysyddion, ac os:

  • nad oes gennych chi unrhyw un arall (perthynas, ffrind neu ofalwr) sy’n gallu’ch helpu chi symud y cynwysyddion wrth ymyl y palmant ar y diwrnod casglu.
  • oes gennych chi fan addas i leoli’ch cynwysyddion sydd o fewn cyrraedd i’r criwiau.
  • ydych chi’n cytuno i ddidoli’ch eitemau’n gywir ar gyfer ailgylchu.

Gallwch naill ai gyflwyno ffurflen gais ar-lein neu gallwch ei llwytho i lawr, ac anfon y ffurflen ar ôl ei llenwi yn ôl atom drwy e-bost neu drwy’r post (mae manylion ar y ffurflen). Ar ôl derbyn eich cais efallai bydd swyddog yn cysylltu â chi i’w drafod ymhellach a threfnu asesiad.

Casgliad â chymorth dros dro –  e.e. os ydych chi wedi cael anaf neu driniaeth (fel clun neu ben-glin newydd) ac nad ydych chi’n gallu symud eich cynwysyddion neu finiau ar hyn o bryd, ond bod disgwyl i chi wella’n dda.

Gallwch ofyn am wasanaeth casglu â chymorth dros dro am 3, 6 neu 12 mis; neu

Casgliad â chymorth parhaol – Os oes arnoch chi angen cymorth i symud eich cynwysyddion ac os nad yw’ch amgylchiadau yn debygol o newid.

Rydym ni’n cadw’r hawl i ysgrifennu atoch chi bob dwy flynedd i ofyn i chi gadarnhau a oes arnoch chi dal angen y gwasanaeth. Gall methiant i ymateb, olygu efallai y bydd eich cynhwysyddion yn cael eu methu ar ddiwrnod eich casgliad.

Mae ffurflenni cais ar gael gan Gydlynydd y Fforwm Pobl Hŷn, neu gallwch ffonio’r tîm cyngor cwsmeriaid ar 01492 575337.