Oed Gyfeillgar: Gwneud Conwy yn Lle Gwych i Heneiddio

Age Friendly Communities – Mae “Oed Gyfeillgar” yn disgrifio cymunedau sy’n cefnogi mynediad at wasanaethau a chyfleoedd i bobl wrth iddyn nhw heneiddio, ac sy’n hyrwyddo cynhwysiant a chyfranogiad oedolion hŷn ym mhob agwedd ar fywyd.

Oed Gyfeillgar: Gwneud Conwy yn Lle Gwych i HeneiddioMae “Oed Gyfeillgar” yn disgrifio cymunedau sy’n cefnogi mynediad at wasanaethau a chyfleoedd i bobl wrth iddyn nhw heneiddio, ac sy’n hyrwyddo cynhwysiant a chyfranogiad oedolion hŷn ym mhob agwedd ar fywyd.Mae Rhwydaith Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed Gyfeillgar yn grŵp byd eang o gymunedau sydd wedi ymrwymo i newid eu cymdeithasau i’w gwneud yn addas i oedolion hŷn ac yn fuddiol i bobl o bob oed. Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn eisiau sicrhau mai Cymru yw’r wlad orau yn y byd i heneiddio ac mae’n gweld datblygu cymunedau oed gyfeillgar fel rhan allweddol o’r nod hwn.

Yng Nghymru, mae pob awdurdod lleol wedi llofnodi Datganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau Oed Gyfeillgar (a gefnogir gan Sefydliad Iechyd y Byd), sy’n ymrwymiad i wneud eu sir yn oed gyfeillgar, ac roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru (2013-2023).

Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi llofnodi Datganiad Dulyn yn 2013, gan addo cynnal egwyddorion cymunedau oed gyfeillgar ar gyfer heneiddio’n iach.  Ers hynny, mae strategaethau a chynlluniau wedi cael eu rhoi ar waith yng Nghonwy fel Cynllun Gweithredu Heneiddio’n Dda yng Nghonwy 2015-2019, a Chynllun Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 2017-2022, sydd ill dau yn gweithio i wella profiadau pobl o fyw a heneiddio yng Nghonwy.

Ond a yw’r datganiadau, y cynlluniau gweithredu a’r strategaethau wedi gwella bywyd pobl hŷn yng Nghonwy?

Dros y misoedd nesaf, bydd y Fforymau Pobl Hŷn yn canfod beth sydd angen ei wneud o hyd i wneud Conwy yn oed gyfeillgar. Byddwn yn siarad yn y fforymau a drwy gyfres o ddigwyddiadau arbennig, gan ofyn i bobl hŷn:

 “Beth sydd ei angen i wneud Conwy yn lle gwych i heneiddio?”

Bydd yr ymatebion a fydd yn cael eu casglu yn cael eu cyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cynghorwyr Sir, Aelodau Seneddol ac Aelodau o’r Senedd, a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, iddyn nhw eu hystyried.

Bydd y trafodaethau’n seiliedig ar 8 parth oed gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd er mwyn addasu’n well i anghenion pobl hŷn:

1.    Mannau awyr agored ac adeiladau

2.    Trafnidiaeth a symudedd

3.    Tai

4.    Cyfranogiad Cymdeithasol  

5.    Parch a Chynhwysiant Cymdeithasol

6.    Cyfranogiad Dinesig a Gwaith

7.    Cyfathrebu a Gwybodaeth

8.    Cymorth Cymunedol a Gwasanaethau Iechyd