Mae yna lawer o ffactorau sy’n cyfrannu at oes hir, ond yn ôl un astudiaeth wyddonol gynhwysfawr, mae yna ddau ragfynegydd pwerus o heneiddio’n llwyddiannus.
Roedd dadansoddiad trylwyr a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn gwyddonol PLoS One a’r Llyfrgell Genedlaethol Meddygaeth yn 2019, o’r enw ‘Lifestyle predictors of successful aging: A 20-year prospective HUNT study’, yn ymchwilio i effaith amodau ffordd o fyw canol oes a sut yr oeddynt yn arwain at heneiddio llwyddiannus.
Mae ffactorau ffordd o fyw sy’n rhagweld heneiddio’n llwyddiannus….yn bwysig er mwyn deall heneiddio’n iach, ymyriadau a dulliau atal, ysgrifennodd ymchwilwyr yr astudiaeth.
Disgrifiwyd ‘Heneiddio Llwyddiannus’ fel bod yn rhydd o glefydau penodol ac iselder, dim nam corfforol neu feddyliol ac ymgysylltu’n egnïol â bywyd.
Fe ddadansoddodd yr ymchwilwyr ddata o arolwg iechyd y boblogaeth, Astudiaeth Iechyd Nord-Trøndelag (HUNT), gan gynnal dadansoddiad dilynol ar ôl 22 o flynyddoedd ar gyfartaledd.
Beth wnaeth yr ymchwilwyr ei ganfod?
Peidio smygu a chefnogaeth gymdeithasol dda oedd y rhagfynegwyr pwysicaf ar gyfer heneiddio’n llwyddiannus….ysgrifennodd yr ymchwilwyr.
Mae lleihau’r risgiau drwy fwyta diet iach ac ymarfer corff yn bwysig, ond gallai cyfuniad o leihau ffactorau risg yn ystod canol oes gyda chefnogaeth gymdeithasol, fod y peth gorau i hybu iechyd yn gyffredinol ac iechyd wrth heneiddio.
Bwyd da a chwmni da yw’r feddyginiaeth orau ar gyfer ein hiechyd ac ar gyfer heneiddio’n dda.