
Age Friendly Communities – Mae “Oed Gyfeillgar” yn disgrifio cymunedau sy’n cefnogi mynediad at wasanaethau a chyfleoedd i bobl wrth iddyn nhw heneiddio, ac sy’n hyrwyddo cynhwysiant a chyfranogiad oedolion hŷn ym mhob agwedd ar fywyd.
Oed Gyfeillgar: Gwneud Conwy yn Lle Gwych i HeneiddioMae “Oed Gyfeillgar” yn disgrifio cymunedau sy’n cefnogi mynediad at wasanaethau a chyfleoedd i bobl wrth iddyn nhw heneiddio, ac sy’n hyrwyddo cynhwysiant a chyfranogiad oedolion hŷn ym mhob agwedd ar fywyd.Mae Rhwydaith Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed Gyfeillgar yn grŵp byd eang o gymunedau sydd wedi ymrwymo i newid eu cymdeithasau i’w gwneud yn addas i oedolion hŷn ac yn fuddiol i bobl o bob oed. Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn eisiau sicrhau mai Cymru yw’r wlad orau yn y byd i heneiddio ac mae’n gweld datblygu cymunedau oed gyfeillgar fel rhan allweddol o’r nod hwn.
Yng Nghymru, mae pob awdurdod lleol wedi llofnodi Datganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau Oed Gyfeillgar (a gefnogir gan Sefydliad Iechyd y Byd), sy’n ymrwymiad i wneud eu sir yn oed gyfeillgar, ac roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru (2013-2023). Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi llofnodi Datganiad Dulyn yn 2013, gan addo cynnal egwyddorion cymunedau oed gyfeillgar ar gyfer heneiddio’n iach. Ers hynny, mae strategaethau a chynlluniau wedi cael eu rhoi ar waith yng Nghonwy fel Cynllun Gweithredu Heneiddio’n Dda yng Nghonwy 2015-2019, a Chynllun Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 2017-2022, sydd ill dau yn gweithio i wella profiadau pobl o fyw a heneiddio yng Nghonwy. Ond a yw’r datganiadau, y cynlluniau gweithredu a’r strategaethau wedi gwella bywyd pobl hŷn yng Nghonwy? Dros y misoedd nesaf, bydd y Fforymau Pobl Hŷn yn canfod beth sydd angen ei wneud o hyd i wneud Conwy yn oed gyfeillgar. Byddwn yn siarad yn y fforymau a drwy gyfres o ddigwyddiadau arbennig, gan ofyn i bobl hŷn: “Beth sydd ei angen i wneud Conwy yn lle gwych i heneiddio?” Bydd yr ymatebion a fydd yn cael eu casglu yn cael eu cyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cynghorwyr Sir, Aelodau Seneddol ac Aelodau o’r Senedd, a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, iddyn nhw eu hystyried. Bydd y trafodaethau’n seiliedig ar 8 parth oed gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd er mwyn addasu’n well i anghenion pobl hŷn: |
|
1. Mannau awyr agored ac adeiladau
2. Trafnidiaeth a symudedd 3. Tai 4. Cyfranogiad Cymdeithasol |
5. Parch a Chynhwysiant Cymdeithasol
6. Cyfranogiad Dinesig a Gwaith 7. Cyfathrebu a Gwybodaeth 8. Cymorth Cymunedol a Gwasanaethau Iechyd |