
Chwaraeodd Band Brenhinol Cymru y tu allan i Hafan Gwydir yn Llanrwst ddydd Iau 22 Medi.
Roedd y band yn eu gwisg lawn a’u masgot gyda nhw, a buon nhw wrthi’n chwarae am chwarter awr cyn mynd i’r cam nesaf ar eu taith ledled Cymru. Diolch i’m Canon Power Shot SX 120, ro’n i’n gallu tynnu lluniau.
(Hilda from Llanrwst)