Yw Technoleg Ddigidol Yn Ein Cysylltu Neu Yn Ein Cadw Ar Wahân?

Gwyddom fod mwy a mwy o bobl hŷn yn defnyddio technoleg ddigidol fel ffonau clyfar ac apiau galwadau fideo i gadw mewn cysylltiad, ond a yw’r technolegau hyn mewn gwirionedd yn helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd.

Gwyddom fod arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd yn niweidiol ac yn gyffredin ymhlith pobl hŷn – gan niweidio iechyd corfforol a meddyliol, lleihau ansawdd bywyd, a byrhau bywydau.

Dangosodd Covid-19 yn union pa mor hanfodol yw cysylltiadau cymdeithasol ar gyfer ein lles.  Pan nad oedd yn ddiogel cyfarfod wyneb yn wyneb, fe wnaethom oll droi at offer digidol i gadw mewn cysylltiad, ond a yw’r technolegau hyn mewn gwirionedd yn ein helpu i fod yn fwy cysylltiedig. Sgwrsio ar Facebook, postio ar Instagram, apwyntiadau meddygon teulu rhithwir, ZOOM gyda’r teulu, i gyd heb adael ein cartrefi ein hunain – ai dyma’r dyfodol mewn gwirionedd?

Ydych chi’n meddwl y gall cwtsh rhithwir fyth wneud iawn am gwtch go iawn?  Ysgrifennwch, ffoniwch neu anfonwch e-bost ata i i rannu eich meddyliau gyda darllenwyr eraill.