Cyflwyno Terfynau Cyflymder 20mya Awtomataidd

Pasiodd y Senedd ddeddfwriaeth Gorchymyn Ffyrdd  (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 ar ddechrau 2022. Mae hyn yn golygu y bydd terfynau cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd cyfyngedig yn lleihau o 30mya i 20mya o fis Medi 2023.

Dim ond ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr y bydd y newid i ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt. Mae ffyrdd cyfyngedig yn cynnwys strydoedd gyda goleuadau stryd wedi’u lleoli ddim mwy na 200 llath ar wahân.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod na fydd pob ffordd 30mya presennol yn addas i gael ei newid i 20mya, ac yn gweithio gydag awdurdodau priffyrdd, Asiantau Cefnffyrdd (TRAau) ac awdurdodau lleol (sy’n gyfrifol am ffyrdd gwledig), i nodi ffyrdd posibl lle bydd terfynau cyflymder yn cael eu lleihau, a’r rhai a ddylai barhau i fod yn 30mya.

Bydd Cymru yn un o wledydd cyntaf y byd i gyflwyno deddfwriaeth i fod â therfyn cyflymder 20mya ar ffyrdd ble mae ceir yn cymysgu gyda cherddwyr a beicwyr. Mae’r newidiadau hyn yn cefnogi Strategaeth Trafnidiaeth Cymru (sy’n blaenoriaethu cerdded a beicio), a Cymru’r Dyfodol: Y cynllun cenedlaethol 2040, sy’n cyfleu’r nod i bobl fyw mewn lleoedd lle mae teithio’n cael effaith amgylcheddol isel.

Gallai lleihau’r terfyn cyflymder awtomataidd i 20mya yn yr ardaloedd hyn arwain at nifer o fanteision, gan gynnwys llai o ddamweiniau ar ffyrdd, a rhagor o gyfleoedd i gerdded a beicio yn ein cymunedau.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi mai’r ffordd fwyaf effeithiol o wella diogelwch cerddwyr yw lleihau cyflymder cerbydau. Noda’r Gymdeithas Atal Damweiniau Brenhinol (RoSPA) fod 45% o gerddwyr yn cael eu lladd os cânt eu taro gan gar yn teithio 30mya neu arafach, ond dim ond 5% gan gar yn teithio 20mya neu arafach.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r heddlu i ddatblygu strategaeth gorfodi sy’n cael ei gyflwynon yn y treial cyntaf cyn y cyflwyniad cenedlaethol arfaethedig.

Dechreuodd gam cyntaf cyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya mewn 8 cymuned gan gynnwys Sir y Fflint, lle bydd data a gesglir yn cael ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgyrchoedd gwybodaeth lleol yn yr 8 o gymunedau peilot, gan weithio ar amlygu’r newidiadau a’r manteision posibl.