United Nations Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn

Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn yn ddiwrnod arbennig ledled y byd, i arddangos ysbryd a chyfraniad pobl hŷn mewn byd newidiol a heriol. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn nodi’r diwrnod hwn drwy annog gwledydd i dynnu sylw at, a herio, stereoteipiau negyddol, a chamsyniadau am bobl hŷn, a chaniatáu i bobl hŷn fyw’n dda a gwireddu eu potensial. Wrth gwrs, mae hefyd yn gyfle i rannu atgofion, dymuniadau, a dathlu pobl hŷn!

Thema eleni – Gwydnwch a Chyfraniadau Merched Hŷn

Mae’r pandemig diweddar wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau presennol i lawer, ond mae wedi effeithio’n sylweddol ar fywydau pobl hŷn, yn enwedig menywod hŷn sy’n ffurfio mwyafrif y bobl hŷn ledled y byd. Mae menywod hŷn yn parhau i gyfrannu’n ystyrlon at eu cymunedau yn gymdeithasol ac yn wleidyddol, ond yn aml mae eu cyfraniadau a’u profiadau yn parhau i fod yn anweledig ac yn cael eu tanwerthfawrogi. Yn ogystal, maent yn aml yn wynebu gwahaniaethu gan gynnwys stereoteipiau negyddol sy’n cyfuno rhagfarn ar sail oed a rhywiaeth.

Mae’r thema hon yn ein hatgoffa o gyfraniadau hanfodol menywod hŷn, ac yn annog y byd i glywed eu lleisiau, eu safbwyntiau a’u hanghenion, a chreu newidiadau ystyrlon i wella ymateb cyflawn i heriau lleol a byd-eang. Mae’n gyfle i arddangos cyfraniadau menywod hŷn, tra’n hyrwyddo sgyrsiau ar ffyrdd o wella amddiffyn hawliau dynol pobl hŷn a chydnabod eu cyfraniadau.

Yng Nghymru a Sir Conwy mae llawer o ddathliadau, seremonïau gwobrwyo a digwyddiadau cymdeithasol yn cael eu cynnal i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig. Fel cydlynydd y Fforwm Pobl Hŷn, hoffwn gymeradwyo aelodau’r fforwm, a thipio fy het goch (gweler yr erthygl ar dudalen 18), at holl aelodau benywaidd y fforwm a merched hŷn Conwy. Pobl Hŷn yw sylfaen ein cymuned, ac maent yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae’n fraint bod yn rhan o’r fforymau, yn grŵp o bobl smart, doniol, cynnes, ac anhygoel – y mae gennyf gymaint i’w ddysgu ganddynt.