Fforwm Pobl Hŷn – Am beth mae pobl yn siarad?

Rhwng mis Mehefin a mis Medi cynhaliwyd 10 Fforwm Pobl Hŷn yn Sir Conwy. Rhoddwyd pecynnau gwybodaeth ac ychydig o nwyddau am ddim i’r rhai a oedd yn bresennol. Braf oedd gweld llawer o wynebau cyfarwydd a newydd. Mae pryder o hyd am COVID-19, ac roedd llawer o bethau i’w trafod.

Allgáu Digidol – rhan fwyaf o’r wybodaeth a’r gwasanaethau bellach ar gael ar-lein yn unig, gan adael llawer o bobl hŷn yn y niwl yn llwyr ac yna cânt eu cosbi’n ymhellach gan ffioedd ychwanegol am filiau papur, am ddefnyddio sieciau ac ati. Mae pobl hŷn yn wyliadwrus ynghylch gwneud unrhyw beth ar-lein am resymau diogelwch, ac nid ydynt yn teimlo eu bod yn gallu dysgu am gymhlethdod y byd digidol sy’n newid o hyd. Hoffent weld rhaglenni gwybodaeth wedi’u targedu ar deledu a radio, gyda’r naill a’r llall yn cael eu defnyddio’n effeithiol i gyrraedd a hysbysu pobl sydd heb fynediad at y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol. Mae’r holl help sydd ar gael i ddysgu sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn cael ei ddarparu drwy weminarau, sy’n ei gwneud yn amhosibl i ddechreuwyr ddysgu o’r newydd.

Cyfyngiadau Parhaus – Roedd pawb yn cytuno ar bwysigrwydd parhau â phrotocolau diogelwch. Fodd bynnag, mae gormod o gyfyngiadau ar ddefnyddio lleoliadau cymunedol sy’n effeithio’n bennaf ar y boblogaeth hŷn – o gymharu â’r rheoliadau llacach sy’n bodoli mewn tafarndai, clybiau, stadia a theatrau. Mae’r anghysondeb hwn yn cael ei waethygu ymhellach gan y diffyg gorfodi ar brotocolau diogelwch fel gwisgo masg, cadw pellter a diheintio dwylo mewn archfarchnadoedd a mannau cyhoeddus tebyg. Roedd pryderon ynghylch iechyd meddwl pobl hŷn – ofn gadael eu cartrefi, fawr ddim ar gael i’w hysgogi i fynd allan a chymdeithasu ac ati.

Dydy pobl ddim yn teimlo’n ddiogel wrth siopa bwyd, ond wedyn ni allent gael bore coffi gyda’u ffrindiau.”

Mae pobl hŷn yn awyddus i weld gwasanaethau a gweithgareddau yn ailddechrau’n ddiogel yn fuan.

Meddygfeydd – Y pwnc a drafodwyd amlaf ym mhob un o’r fforymau oedd pa mor anodd yw cael apwyntiad â meddyg teulu. Mae’n anodd cysylltu dros y ffôn am 8.30am pan fydd pawb yn ffonio am apwyntiad yr un pryd, a dim ond apwyntiadau’r un diwrnod sydd ar gael.

Gorfod siarad am bryderon meddygol preifat â staff y feddygfa sydd heb unrhyw hyfforddiant meddygol. Does dim consesiwn yn cael ei wneud ar gyfer pobl hŷn sydd heb ffonau symudol, ffonau clyfar, a mynediad at y rhyngrwyd a hwythau’n cael cynnig apwyntiadau dros Zoom neu pan ofynnir iddynt anfon lluniau dros e-bost. Dim ond apwyntiadau dros y ffôn sy’n cael eu cynnig. Pobl yn gorfod aros wrth y ffôn drwy’r dydd yn disgwyl am yr alwad yn ôl gan feddyg teulu am nad ydynt wedi derbyn ffenestr amser penodol ynglŷn â phryd i ddisgwyl yr alwad. Prin yw apwyntiadau wyneb yn wyneb ac nid yw rhai meddygfeydd yn eu darparu o gwbl. Rhai pobl yn mynd i’r Uned Mân Anafiadau neu’r adran Damweiniau ac Achosion Brys er mwyn cael eu gweld oherwydd cyflyrau cronig a difrifol, gan nad ydynt yn gallu cael apwyntiadau wyneb yn wyneb.

(Ariennir Fforymau Pobl Hŷn gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Conwy ac fe’u rhedir gan Age Connects NWC mewn gwahanol leoliadau ledled Sir Conwy)