‘Til Araf’ mewn archfarchnadoedd i Bobl sy’n Mwynhau Sgwrs

Er ei bod yn ymddangos bod y rhan fwyaf o bobl ar frys mewn siopau bwyd y dyddiau hyn, mae yna lawer sy’n hoffi cymryd eu hamser, a mwynhau sgwrs wrth dalu, ac nid pobl hŷn yn unig ydy’r rhain. Mae brys yn arbennig o amlwg y dyddiau hyn gyda pheiriannau llaw ‘sganio eich hun’, tiliau hunan-wasanaeth, a staff yn taflu eich bwydydd atoch ar gyflymder. Ond mae un gadwyn archfarchnad yn yr Iseldiroedd wedi penderfynu arafu pethau, yn enwedig i rai sy’n hoffi cymdeithasu a sgwrsio yn y ciw.

Yn ôl yn 2019, fe wnaeth y gadwyn archfarchnadoedd Iseldireg Jumbo Supermarkets, gyflwyno’r ‘Kletskassa’ neu’r til araf cyntaf, i gwsmeriaid nad ydynt ar frys ac sy’n hoffi sgwrs. Y syniad oedd cynnig ciw arafach i gwsmeriaid, gan eu hannog i sgwrsio â’r staff a phobl eraill sydd yn y ciw i helpu i leddfu unigrwydd.

Mae llawer o bobl, yn enwedig yr henoed, weithiau’n teimlo’n unig. Fel busnes teuluol a chadwyn o archfarchnadoedd, rydyn ni wrth galon y gymdeithas. Mae ein siopau yn fan cyfarfod pwysig i lawer o bobl, ac rydym eisiau chwarae ein rhan i gydnabod a lleddfu unigrwydd.” meddai Colette Cloosterman-van Eerd, Prif Swyddog Masnachol Jumbo.

Cafodd Jumbo Supermarkets gymaint o adborth cadarnhaol am eu Kletskassa, fel bod y gadwyn archfarchnadoedd, ym mis Medi 2021, wedi dechrau agor ciwiau talu araf ym mhob un o’u 200 o siopau ar draws y wlad.

“Rydyn ni hefyd yn falch o’r holl weithwyr tils sy’n mwynhau cymryd sedd tu ôl i Kletskassa.” ychwanega Prif Swyddog Masnachol Jumbo.

Syniad da, yn de?

A ddylai archfarchnadoedd Cymru eu cyflwyno nhw hefyd?  Gallwch leisio’ch barn am giwiau talu araf drwy ffonio, ysgrifennu neu e-bostio ar alessandra.thomas@acnwc.org, 01492817124, Fforwm Pobl Hŷn, Canolfan Cymunedol Eirianfa, Dinbych LL16 3TS.