Nain a Taid

Mae teidiau a neiniau yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd eu hwyrion ac wyresau. Ni all unrhyw beth ddisodli’r cariad a’r gofal y mae plentyn yn ei dderbyn gan taid a nain. Mae eu doethineb a’u profiadau yn amhrisiadwy i wyrion ac wyresau ac i blant yn dechrau eu teuluoedd eu hunain. Ond, mae system gofal plant y DU, sy’n aml yn cael ei hanwybyddu, yn golygu bod angen i deidiau a neiniau gamu i’r adwy yn aml i gynnig cymorth cyson, ymhell y tu hwnt i ddyletswyddau taid a nain. Yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd gan Age UK. mae dau allan o bob pump o deidiau a neiniau’r DU wedi darparu gofal plant rheolaidd i’w hwyrion ac wyresau.

Mae hynny’n cyfateb i bum miliwn o deidiau a neiniau, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt (89%) yn darparu gofal wythnosol. Roedd ychydig dros hanner o’r teidiau a neiniau hyn yn darparu gofal yn rheolaidd am hyd at bum mlynedd, gyda rhai cyn hired â deng mlynedd. Mae neiniau a theidiau yn darparu gwerth 22 biliwn o bunnoedd o ofal plant mewn blwyddyn, sy’n cyfateb i ddarparu gwerth £3,370 o ofal plant i deulu cyfartalog mewn blwyddyn.

Bydd llawer o deidiau a neiniau yn dweud wrthych am y manteision o dreulio amser gyda’u hwyrion ac wyresau. Mae’n eu cadw nhw’n actif yn gorfforol ac yn feddyliol, yn lleihau unigrwydd, yn rhoi synnwyr o bwrpas iddynt ac yn fwyaf oll, yn rhoi cyfle iddynt fwynhau cwmni’r plant.

Er bod neiniau a theidiau wrth eu boddau â’u hwyrion ac wyresau, yw hi wir yn deg bod disgwyl iddynt ofalu mwy, ar ôl degawdau o fagu eu plant eu hunain? Ydych chi’n credu ei bod hi’n deg i deidiau a neiniau ddarparu gwasanaeth gofal plant, neu ai hynny yw cylch bywyd?