Blog

Peidiwch â Gwneud Penderfyniadau CPR.

Mae adfywio cardio-pwlmonaidd neu CPR yn driniaeth a weinyddir yn ystod argyfwng meddygol, pan fyddwch chi’n rhoi’r gorau i anadlu (ataliad anadlol) neu’ch calon yn stopio curo (ataliad ar y galon). Nid yw rhai pobl yn gwella’n llawn ar ôl cael CPR, yn dibynnu ar eu hiechyd neu eu cyflwr, a dyna pam y gallan nhw ddewis peidio â derbyn CPR neu driniaethau a allai achosi dioddefaint ar ddiwedd oes. Mae DNACPR yn sefyll am Peidio ag Adfywio Cardio-pwlmonaidd. Ystyr DNACPR yw os bydd eich calon yn peidio â churo neu’ch anadlu’n stopio, ni fydd eich tîm gofal iechyd yn…

Darllenwch mwy

Gwasanaethau Casglu Biniau â Chymorth

Gallwn drefnu casglu â chymorth ar gyfer trigolion sy’n cael trafferth symud eu cynwysyddion a’u biniau i ymyl y palmant ar y diwrnod casglu. Bydd hynny’n golygu y bydd criwiau casglu yn nôl eich cynwysyddion a’ch biniau o leoliad a gytunwyd arno y tu allan i’ch cartref ac yn mynd â nhw’n ôl wedyn. Ni fydd criwiau ailgylchu yn mynd i mewn i’ch cartref ac ni fyddan nhw’n didoli eich eitemau ar gyfer ailgylchu. Gallwch wneud cais am gasgliad â chymorth os nad ydych chi’n gallu symud eich cynwysyddion, ac os: nad oes gennych chi unrhyw un arall (perthynas, ffrind neu ofalwr) sy’n gallu’ch…

Darllenwch mwy

Sut i Gael Copi O’ch Cofnodion Meddtgol

Mae gan bawb yn y DU hawl gyfreithiol i weld eu cofnodion meddygol neu iechyd eu hunain o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Does dim angen talu i gael mynediad i’ch cofnodion meddygol dan GDPR – ni fydd angen talu unrhyw beth. Nid oes rhaid i chi egluro pam eich bod eisiau eu gweld, a gallwch enwebu rhywun arall, er enghraifft cyfreithiwr, i weld eich cofnodion, ar yr amod eu bod wedi cael caniatâd ysgrifenedig. Gellid gwrthod eich cais os yw gweithiwr iechyd proffesiynol o’r farn y byddai gweld y cofnodion yn niweidiol iawn i’ch iechyd corfforol neu…

Darllenwch mwy

‘Til Araf’ mewn archfarchnadoedd i Bobl sy’n Mwynhau Sgwrs

Er ei bod yn ymddangos bod y rhan fwyaf o bobl ar frys mewn siopau bwyd y dyddiau hyn, mae yna lawer sy’n hoffi cymryd eu hamser, a mwynhau sgwrs wrth dalu, ac nid pobl hŷn yn unig ydy’r rhain. Mae brys yn arbennig o amlwg y dyddiau hyn gyda pheiriannau llaw ‘sganio eich hun’, tiliau hunan-wasanaeth, a staff yn taflu eich bwydydd atoch ar gyflymder. Ond mae un gadwyn archfarchnad yn yr Iseldiroedd wedi penderfynu arafu pethau, yn enwedig i rai sy’n hoffi cymdeithasu a sgwrsio yn y ciw. Yn ôl yn 2019, fe wnaeth y gadwyn archfarchnadoedd Iseldireg…

Darllenwch mwy

Nain a Taid

Mae teidiau a neiniau yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd eu hwyrion ac wyresau. Ni all unrhyw beth ddisodli’r cariad a’r gofal y mae plentyn yn ei dderbyn gan taid a nain. Mae eu doethineb a’u profiadau yn amhrisiadwy i wyrion ac wyresau ac i blant yn dechrau eu teuluoedd eu hunain. Ond, mae system gofal plant y DU, sy’n aml yn cael ei hanwybyddu, yn golygu bod angen i deidiau a neiniau gamu i’r adwy yn aml i gynnig cymorth cyson, ymhell y tu hwnt i ddyletswyddau taid a nain. Yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd gan Age UK. mae…

Darllenwch mwy

Cyflwyno Terfynau Cyflymder 20mya Awtomataidd

Pasiodd y Senedd ddeddfwriaeth Gorchymyn Ffyrdd  (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 ar ddechrau 2022. Mae hyn yn golygu y bydd terfynau cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd cyfyngedig yn lleihau o 30mya i 20mya o fis Medi 2023. Dim ond ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr y bydd y newid i ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt. Mae ffyrdd cyfyngedig yn cynnwys strydoedd gyda goleuadau stryd wedi’u lleoli ddim mwy na 200 llath ar wahân. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod na fydd pob ffordd 30mya presennol yn addas i gael ei newid i 20mya, ac yn gweithio gydag…

Darllenwch mwy

Yw Technoleg Ddigidol Yn Ein Cysylltu Neu Yn Ein Cadw Ar Wahân?

Gwyddom fod mwy a mwy o bobl hŷn yn defnyddio technoleg ddigidol fel ffonau clyfar ac apiau galwadau fideo i gadw mewn cysylltiad, ond a yw’r technolegau hyn mewn gwirionedd yn helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd. Gwyddom fod arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd yn niweidiol ac yn gyffredin ymhlith pobl hŷn – gan niweidio iechyd corfforol a meddyliol, lleihau ansawdd bywyd, a byrhau bywydau. Dangosodd Covid-19 yn union pa mor hanfodol yw cysylltiadau cymdeithasol ar gyfer ein lles.  Pan nad oedd yn ddiogel cyfarfod wyneb yn wyneb, fe wnaethom oll droi at offer digidol i gadw mewn cysylltiad, ond a…

Darllenwch mwy

United Nations Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn

Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn yn ddiwrnod arbennig ledled y byd, i arddangos ysbryd a chyfraniad pobl hŷn mewn byd newidiol a heriol. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn nodi’r diwrnod hwn drwy annog gwledydd i dynnu sylw at, a herio, stereoteipiau negyddol, a chamsyniadau am bobl hŷn, a chaniatáu i bobl hŷn fyw’n dda a gwireddu eu potensial. Wrth gwrs, mae hefyd yn gyfle i rannu atgofion, dymuniadau, a dathlu pobl hŷn! Thema eleni – Gwydnwch a Chyfraniadau Merched Hŷn Mae’r pandemig diweddar wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau presennol i lawer, ond mae wedi effeithio’n sylweddol ar fywydau pobl hŷn, yn enwedig menywod…

Darllenwch mwy

Penderfyniadau Ffordd o Fyw sy’n arwain at Heneiddio Llwyddiannus

Mae yna lawer o ffactorau sy’n cyfrannu at oes hir, ond yn ôl un astudiaeth wyddonol gynhwysfawr, mae yna ddau ragfynegydd pwerus o heneiddio’n llwyddiannus. Roedd dadansoddiad trylwyr a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn gwyddonol PLoS One a’r Llyfrgell Genedlaethol Meddygaeth yn 2019, o’r enw ‘Lifestyle predictors of successful aging: A 20-year prospective HUNT study’, yn ymchwilio i effaith amodau ffordd o fyw canol oes a sut yr oeddynt yn arwain at heneiddio llwyddiannus. Mae ffactorau ffordd o fyw sy’n rhagweld heneiddio’n llwyddiannus….yn bwysig er mwyn deall heneiddio’n iach, ymyriadau a dulliau atal, ysgrifennodd ymchwilwyr yr astudiaeth. Disgrifiwyd ‘Heneiddio Llwyddiannus’ fel…

Darllenwch mwy

Oed Gyfeillgar: Gwneud Conwy yn Lle Gwych i Heneiddio

Age Friendly Communities – Mae “Oed Gyfeillgar” yn disgrifio cymunedau sy’n cefnogi mynediad at wasanaethau a chyfleoedd i bobl wrth iddyn nhw heneiddio, ac sy’n hyrwyddo cynhwysiant a chyfranogiad oedolion hŷn ym mhob agwedd ar fywyd. Oed Gyfeillgar: Gwneud Conwy yn Lle Gwych i HeneiddioMae “Oed Gyfeillgar” yn disgrifio cymunedau sy’n cefnogi mynediad at wasanaethau a chyfleoedd i bobl wrth iddyn nhw heneiddio, ac sy’n hyrwyddo cynhwysiant a chyfranogiad oedolion hŷn ym mhob agwedd ar fywyd.Mae Rhwydaith Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed Gyfeillgar yn grŵp byd eang o gymunedau sydd wedi ymrwymo i newid eu cymdeithasau i’w gwneud yn…

Darllenwch mwy